Ffilm fer: 'Amleddau'

I gyd-fynd gyda rhaglen 'Amleddau' ar Radio Cymru gwyliwch ffilm arbennig gan y cyfansoddwr John Meirion Rea.

Mae'r ffilm yn seiliedig ar ddyluniad sain trawiadol y gwnaeth John ei gynhyrchu ar achlysur 100 mlynedd o ddarlledu'r BBC yng Nghymru.

Dros olygfeydd trawiadol, clywn leisiau o donfeddi'r gorffennol yn atseinio dros drefniannau llinynnol y cyfansoddwr o Gaerdydd. Eisteddwch yn ôl a mwynhewch!

Mae modd gweld mwy o gynnwys o archif BBC Cymru fan yma.

Camera: Huw Talfryn Walters a Ric Bower

Cymysgu sain: Jonathan Stevens

Golygu a graddio: Ric Bower

Dylunio: Oliver Norcott