Llaneirwg: 'Od iawn fod pum ffôn wedi distewi ar yr un pryd'
Mae cyn-gomisiynydd heddlu wedi dweud wrth BBC Cymru y dylai'r tawelwch ar ffonau symudol y bobl ifanc oedd mewn gwrthdrawiad angheuol yng Nghaerdydd dros y penwythnos fod wedi bod yn ddigon i ddechrau ymchwiliad effeithiol.
Roedd Winston Roddick KC, gyn-gomisiynydd heddlu a throsedd y gogledd, yn ymateb i feirniadaeth gan anwyliaid tair menyw a dau ddyn ynghylch yr amser a gymrodd i'r heddlu ddod o hyd i'r cerbyd roedden nhw'n teithio ynddo wedi noson allan nos Wener.
Roedd perthnasau wedi apelio am gymorth ar y cyfryngau cymdeithasol trwy'r penwythnos wedi iddyn nhw fynd ar goll.
Daethpwyd o hyd i'w cerbyd mewn ardal goediog oddi ar ffordd brysur yr A48 yn Llaneirwg yn yr oriau mân fore Llun.
Roedd tri - Eve Smith, 21, Darcy Ross, 21, a Rafel Jeanne, 24 - wedi marw, ac mae Sophie Russon, 20, a Shane Loughlin, 32, yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Mae'r ymchwiliad yn parhau i'r gwrthdrawiad ei hun, ond mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi cadarnhau eu bod hwythau am ymchwilio i'r ffordd yr ymatebodd heddluoedd Gwent a De Cymru i adroddiadau bod pum person ar goll.
Yn ôl Mr Roddick roedd yna arwyddion clir bod yna bosibilrwydd bod rhywbeth "anghyffredin" wedi digwydd.