Aaron Ramsey'n 'barod i gymryd cyfrifoldeb eto' fel capten

"Fi jyst yn teimlo fod fi'n barod i gymryd y responsibility eto."

Mae Aaron Ramsey wedi cael ei benodi'n gapten ar y tîm pêl-droed cenedlaethol am yr eildro, ar ôl i Gareth Bale gyhoeddi ei ymddeoliad.

Wrth siarad â Newyddion S4C ddydd Llun, dywedodd ei fod yn "foment balch iawn" iddo ef a'i deulu.

"Mae'n gyfle i'r chwaraewyr ifanc nawr i ddangos beth maen nhw'n gallu ei wneud," ychwanegodd.

"Ni jyst methu aros nawr i ddechrau'r campgain a gobeithio ni'n cael dechrau da."

Adroddiad Lowri Roberts i Newyddion S4C.