Beth ydy Porthladd Rhydd?

Bydd dau borthladd rhydd newydd yn cael eu sefydlu yng Nghymru gydag addewid o fuddsoddiad a swyddi.

O ganlyniad i gyhoeddiad nos Fercher bydd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot, a Phorthladd Rhydd Ynys Môn yn derbyn hyd at £26m yr un gan Lywodraeth y DU.

Mae disgwyl iddyn nhw fod yn weithredol yn ddiweddarach eleni.

Cyn y cyhoeddiad aeth ein gohebydd Liam Evans i Gaergybi i esbonio beth ydy Porthladd Rhydd.