Diwedd cyfnod wrth i siop Howells Caerdydd gau ei drysau

Roedd hi'n ddiwedd pennod dros y penwythnos wrth i un o siopau mwyaf nodedig Caerdydd gau ei drysau.

Mae Howells, neu House of Fraser, wedi bod yn rhan amlwg o'r brifddinas am dros 150 o flynyddoedd ac yn cael ei hystyried ar un adeg yn un o siopau mwyaf moethus Cymru.

Wedi agor yn 1867, dydd Sul oedd ei diwrnod olaf o fasnachu.

Un a fu'n gweithio yno yw'r actores Marion Fenner, a ddechreuodd weithio yno yn 1997 yn gwerthu colur.

"Roedd 'na rhywbeth mor glam ambyti'r lle, mor stylish... oedd hi'n bleser mynd fewn yna," meddai.

Mae Thackeray Group wedi prynu'r adeilad rhestredig Gradd II ac yn bwriadu gwario £100m ar ei ailddatblygu.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys creu teras ar y to, a dywedodd y cwmni y bydd yn "addas ar gyfer amrywiaeth o wahanol ddefnydd bwyd a diod, swyddfa, manwerthu neu ddefnydd cymunedol".