Cofio 20 mlynedd ers i'r toll ar Cob Borthmadog gau

Am bron i 200 mlynedd roedd y tollty ar y Cob ym Mhorthmadog yn rhan o fywydau pob dydd pobl Gwynedd.

Mae'r Cob yn cario'r A487 i fyny'r rhan helaeth o lwybr arfordirol orllewinol Cymru.

Ond yn sgil y cynlluniau i agor ffordd osgoi heibio tref Porthmadog, fe ostyngodd y defnydd o'r ffordd.

Ar ddydd Sadwrn, 29 Mawrth 2003, fe dalwyd y ffi o 5 ceiniog am y tro olaf ar Y Cob.

Roedd Elfyn Lewis yn gweithio yno rhwng 1996-2002, ac mae'n rhannu ei atgofion o'r cyfnod gyda BBC Cymru Fyw.