'Roedd gan fy ngŵr ofn ofnadwy dal Covid yn yr ysbyty'
Aeth Jeff Blake i'r ysbyty ym mis Medi 2020 gyda niwmonia, a tra yno fe gafodd ei heintio â Covid. Bu farw ym Mawrth 2021.
Dywedodd ei wraig, Helen Jensen, fod Jeff wedi cael ei symud yn aml iawn tra yn yr ysbyty - un o'r materion a oedd yn ei gwneud hi'n haws i'r haint ledaenu, yn ôl adroddiad newydd.
Mae ei weddw hefyd yn teimlo bod cyfyngiadau ymweld wedi effeithio ar les meddyliol ei gŵr.
Yn siarad gyda gohebydd iechyd BBC Cymru, Owain Clarke, dywedodd Helen fod gan Jeff "ofn ofnadwy dal Covid".