'Dim chewing gum!' Golwg ar un o drenau newydd Metro De Cymru
Yn gynharach yn yr wythnos, fe ddaeth i'r amlwg bod y gost o adeiladu rhwydwaith rheilffyrdd Metro De Cymru wedi codi i £1 biliwn.
Y disgwyl yw y bydd y Metro - sydd i fod i wella'r rhwydwaith rheilffyrdd y de-ddwyrain - yn cael ei gwblhau yn 2025.
Dywedodd prif weithredwr TC, James Price, ei fod yn gwneud "popeth sy'n bosib" i reoli costau.
Ond sut mae'r trenau newydd yn edrych y tu fewn?
Rachel Stephens, o Dreherbert yn Rhondda Cynon Taf, sy'n ein tywys o amgylch un o drenau newydd Metro De Cymru.
Fideo gan Rhys Thomas a Hollie Smith