Geiriau arwyddair Llangollen 'ddim yn addas' erbyn heddiw
Mae angen i'r rheiny sydd eisiau cadw arwyddair 'byd gwyn' Eisteddfod Ryngwladol Llangollen fod yn "gallach ac yn fwy sensitif" i ystyr y geiriau yn y Gymru gyfoes, yn ôl pennaeth ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd.
Galwodd Matthew Evans ar feirdd i gofleidio'r her o geisio creu arwyddair newydd, gan ddweud bod angen ystyried sut mae Cymry Cymraeg o leiafrifoedd ethnig "yn darllen y geiriau hynny".
"Beth yw ystyr y geiriau yma nawr pan 'dan ni'n sôn am Gymry o dras wahanol, sydd yn Gymry Cymraeg rhonc?" meddai.
"'Di o ddim i 'neud efo cyfieithiad, ond sut mae Cymry Cymraeg o dras Bangladeshi, o dras Pacistani, beth bynnag ydyn nhw, yn darllen y geiriau hynny ac yn dweud 'dach chi'n gwybod beth, dwi ddim yn wyn'."
Roedd Mr Evans, prifathro Ysgol Glantaf, yn ymateb i yn galw ar yr eisteddfod i ailystyried y penderfyniad am ei fod yn "diraddio" y Gymraeg.
Ychwanegodd awdur y llythyr - y cyn-ddarlithydd a'r awdur, yr Athro Gruffydd Aled Williams - fod y penderfyniad yn "deillio o anwybodaeth ronc o'r sefyllfa ddiwylliannol yng Nghymru", ac yn "fygythiad diwylliannol go ddifrifol".