BBC Cymru 100: Y tenor David Lloyd

Dewisodd Hywel Gwynfryn y clip hwn am y tenor David Lloyd ar gyfer clip archif Bore Cothi yr wythnos hon. Hannai David Lloyd o Drelogan yn Sir y Fflint.

Caiff ei adnabod fel un o'r cantorion unigol cyntaf i ddenu sylw y tu hwnt i Gymru. Fe ganodd mewn neuaddau a stiwdios recordio yn Lloegr, Ewrop a gogledd America.

Er y câi ei adnabod yn fyd-eang am ganu opera ac oratorio, ac yn benodol am ei berfformiadau o Verdi a Mozart, yma yng Nghymru am ei berfformiadau o emynau Cymreig a chaneuon gwerin y caiff ei gofio.

Daw'r clip hwn o raglen Melys Lais yn 1970. Ei frawd, William Lloyd, sy'n sgwrsio yn y cyfweliad hwn am gyfnod David yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol ac yn ennill ei le yn y Guildhall

Gwrandewch ar y sgwrs ar raglen Bore Cothi ar BBC Sounds.