Cyfle i 'achub y blaen' gyda brechlyn wiwerod coch
Mae 'na alw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu brechiad ar gyfer wiwerod coch i geisio sicrhau cynllun tymor hir i'w hachub.
Mae gwiwerod llwyd yn cario haint sy'n gallu lladd gwiwerod coch yn y pendraw - ond ddim yn cael effaith ar rai llwyd.
Yng Nghoed Treborth ger Bangor, fe gafodd hyd at 80% o'r wiwerod coch eu lladd y llynedd gan frech y wiwerod.
Y pryder yw y bydd wiwerod coch Môn yn cael eu heintio.