Ymgyrch i achub tafarn ym mhentref Cas-lai, Sir Benfro

Mae ymgyrch wedi dechrau yn Sir Benfro dros y penwythnos i brynu tafarn y Cross Inn ym mhentref bach Cas-lai.

Gobaith ymgyrchwyr oedd manteisio ar gynllun Llywodraeth San Steffan, sy'n cefnogi mentrau cymunedol drwy godi llai o dreth, ond mae'r cynllun hwnnw'n dod i ben ddydd Mercher yma.

Mae'n siom fawr i'r rheiny sy'n gweithio yn erbyn y cloc i ddenu buddsoddwyr.

Yn ôl pobl leol, byddai cau'r dafarn yn rhwygo calon y gymuned. Adroddiad Iwan Griffiths i Newyddion S4C.