Carfan rygbi Cymru'n arloesi trwy fonitro eu misglwyf

Mae carfan rygbi merched Cymru wedi troi at ffyrdd arloesol o hyfforddi, trwy ddefnyddio technoleg sy'n monitro eu misglwyf.

Cymru yw'r tîm cyntaf erioed i arbrofi gyda'r dechnoleg newydd.

Yn ôl y chwaraewyr, mae'n gam sydd nid yn unig yn lleihau'r risg o anaf, ond sydd hefyd yn cael gwared â'r stigma mewn chwaraeon.

Janet Ebenezer aeth i glywed mwy gan y maswr Elinor Snowsill a'r prif hyfforddwr Ioan Cunningham ar gyfer rhaglen Newyddion S4C.