Cantores Gymraeg i berfformio ar daith fyd-eang Coldplay

Bydd cantores o Gymru yn cefnogi'r band Coldplay yn ystod eu taith o amgylch y byd yn ystod yr haf.

Fe fydd Hana Lili yn perfformio yn Stadiwm Principality pan fydd y band yn chwarae yno ar 6 a 7 Mehefin.

Bydd y perfformiadau yn rhan o daith fyd eang y band, sydd wedi gwerthu dros 100 miliwn o recordiau ers ffurfio yn 1997.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd Hana nad oedd ei thad yn credu'r newydd pan dderbyniodd y neges.

"Bod ar lwyfan yw lle wy'n mwynhau bod," meddai.

Ychwanegodd ei bod yn "gobeithio gwneud cân Gymraeg - wy'n meddwl bydde fe'n ffantastig perfformio cân Gymraeg ar lwyfan y Principality".