'Cyffrous' gweld cymaint o chwaraewyr ifanc yng ngharfan Cymru
Bydd carfan bêl-droed merched Cymru yn herio Gogledd Iwerddon a Phortiwgal mewn gemau cyfeillgar dros yr wythnos nesaf, cyn dechrau ar eu hymgyrch gyntaf yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn ddiweddarach eleni.
Yn siarad gyda'r BBC dywedodd y chwaraewr canol cae Angharad James fod "gwagle" o fewn y garfan yn dilyn ymddeoliad "mam y grŵp" Helen Ward - prif sgoriwr y tîm cenedlaethol erioed.
"Ond ni'n symud ymlaen," meddai, gan ychwanegu ei bod yn "gyffrous i weld y chwaraewyr ifanc sy'n dod trwyddo".
Dywedodd ei fod yn gyfnod cyffrous i fod yn rhan o'r garfan am fod "pawb yn pwsho ei gilydd er mwyn cael lle ar y cae".
Galwch wylio'r gêm rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon yn fyw gyda sylwebaeth Gymraeg ar wefan ac ap BBC Cymru Fyw nos Iau, gyda'r gic gyntaf am 19:15.