Glywsoch chi erioed am chwarae hoci ar feic un olwyn?

Bob dydd Sul mae criw o bobl yn dod at ei gilydd yng Nghaerdydd i chwarae camp ychydig yn fwy anarferol - hoci ar feic un olwyn.

Mae'n gamp sy'n uno pobl o bob rhywedd ac oedran, ac yn ôl aelod o'r tîm, Bron Evans, maen nhw'n cael "hwyl fawr" wrth chwarae.

"Yn y clwb rydyn ni'n croesawu pawb, ac dydych chi methu reidio unicycle, rydyn ni'n gallu dysgu chi'n hawdd iawn," meddai.

Ychwanegodd aelod arall o'r clwb, Alun Roderick: "Ma' fe'n rhywbeth gwahanol i 'neud, ma' fe'n ymarfer corff, ma' fe'n gymdeithasol.

"Does dim angen sgiliau arbennig ar unrhyw un - dyfalbarhad yw'r peth i ddysgu reidio unicycle, ac ma' fe'n tipyn o hwyl."