Cefnogwyr Wrecsam: 'Dyma ein tymor ni'
Mae Wrecsam gam yn nes at ddyrchafiad hirddisgwyliedig i'r Gynghrair Bêl-droed ar ôl ennill yn erbyn Notts County mewn gêm ddramatig ar y Cae Ras.
Mae'r Dreigiau yn dychwelyd i frig y Gynghrair Genedlaethol ac yn camu uwchben County ar ôl eu trechu 3-2 o flaen torf o bron i 10,000 o bobl.
Ein gohebydd Liam Evans fu'n casglu'r ymateb wedi'r gêm.