'Heb pêl-fasged fysa bywyd ddim yr un peth'

Mae pêl-fasged wedi dod yn rhan allweddol o fywydau dau fachgen o Bwllheli sy'n byw gyda chyflyrau tymor hir.

15 mis oed oedd Steffan, 14, pan gafodd ddiagnosis o barlys yr ymennydd a bu'n rhaid iddo wisgo sblint a ffrâm arbennig.

Mae Jac, 13, wedi gorfod cael pedair llawdriniaeth ar ôl cael ei eni gyda spina bifida, cyflwr sy'n golygu nad yw'r asgwrn cefn na llinyn asgwrn y cefn yn datblygu'n iawn.

Fe ddysgodd y ddau i chwarae pêl-fasged cadair olwyn gyda chlwb Caernarfon Celts, ac erbyn hyn maen nhw wedi cynrychioli Cymru.

Mae'r bechgyn yn ddiolchgar am y gefnogaeth i sicrhau cadeiriau olwyn safonol, gwerth £6,000, a fyddai'n helpu iddyn nhw barhau i ddatblygu wrth fwynhau'r gamp.

Ond maen nhw a'u hyfforddwr yn poeni bod cost offer chwaraeon ar gyfer pobl ag anableddau yn rhwystro nifer rhag cymryd rhan mewn campau a allai "newid eu bywydau".