Profi system rhybuddion argyfwng newydd
Fe fydd negeseuon argyfwng gan lywodraeth y DU yn cael eu profi brynhawn Sul, 23 Ebrill.
Bydd y negeseuon yn ymddangos yn awtomatig ar ffonau symudol am 15:00, ac fe fydd sŵn seiren i'w glywed.
Mae hwn yn brawf ar gyfer negeseuon fyddai'n cael eu hanfon mewn argyfwng go iawn, fel llifogydd difrifol, tanau neu dywydd eithafol.
Ond mae grwpiau sy'n gweithio gyda dioddefwyr trais yn y cartref yn rhybuddio pobl i ddiffodd ffonau symudol cudd sydd ganddyn nhw, fel nad yw troseddwyr yn gallu dod o hyd iddyn nhw.
Y manylion gan Hollie Smith.