Wrecsam: 'Anhygoel, bendigedig, come on the town!'

Roedd dathlu mawr yn Wrecsam nos Sadwrn ar ôl i'r clwb sicrhau dyrchafiad i'r Gynghrair Bel-droed.

Gyda buddugoliaeth o 3-1 yn erbyn Boreham Wood, roedd y dorf ar dân a'r awyrgylch ar y Cae Ras yn drydanol.

Roedd y cefnogwyr wedi paratoi am noson fawr ond roedd yr anghrediniaeth a'r rhyddhad yn amlwg.

Bu rhai yn siarad â BBC Cymru Fyw ar ôl y gêm.