Llyfrgell deithiol Ceredigion yn 75 oed
Yn 1948 taniwyd injan fan yng Ngheredigion fyddai'n dechrau gwasanaeth newydd sbon o'i fath yng nghefn gwlad Cymru.
75 mlynedd yn ddiweddarach mae olwynion Llyfrgell Symudol Ceredigion yn dal i droi ar hyd lonydd y sir ac yn parhau i gynnig gwasanaeth amhrisiadwy i nifer fawr o'i drigolion.
Mae Joe Mitchell yn un o dri o lyfrgellwyr sy'n sicrhau bod llyfrau hen a newydd yn cyrraedd stepen drws hyd at 800 o aelwydydd.
I bobl sydd mewn oedran, ffermwyr, a theuluoedd sy'n byw mewn ardaloedd anghysbell ymhell o'r llyfrgell yn Aberystwyth dyma'r unig ffordd y byddai hi'n bosib iddyn nhw gael ei dwylo ar lyfrau.
Cymru Fyw aeth i edrych ar ddiwrnod ym myd y llyfrgellydd a holi'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth.
Darllenwch y stori: Y llyfrgell deithiol sy'n amhrisiadwy i gefn gwlad Ceredigion