Cip o gwmpas rhannau newydd Castell Caernarfon

Mae rhannau o Gastell Caernarfon sydd wedi eu cuddio ers canrifoedd bellach ar agor i'r cyhoedd.

Yn 2020 fe ddechreuodd cynllun gwerth £5m i adnewyddu'r prif borthdy.

Gan gynnwys gosod dec ar y to a lloriau newydd yn nhyrau'r porthdy, mae lifft hefyd wedi'i osod sy'n caniatáu mynediad i'r lefelau uchaf.

Dyma gip i chi o rai o rannau newydd y castell sydd bellach ar agor i'r cyhoedd.