CôRwst yn canu fersiwn newydd o gân 'I Mewn i'r Gôl'

Mae criw CôRwst wedi dod at ei gilydd i ganu fersiwn newydd o glasur 1978 Côr Meibion Brymbo, 'I Mewn i'r Gôl'.

Daw hynny yn sgil dyrchafiad Clwb Pêl-droed Wrecsam yn ôl i'r Gynghrair Bêl-droed yn dilyn 15 mlynedd ym mhumed haen cynghreiriau Lloegr.