Adam Price 'am weithio i drwsio problemau yn y blaid'
Mae angen i Blaid Cymru ddadwenwyno ei diwylliant yn ôl adolygiad damniol o'r blaid.
Ers mis Rhagfyr y llynedd mae ymchwiliad wedi bod yn cael ei gynnal yn dilyn cyfres o gwynion.
Mae'r casgliadau'n nodi bod y blaid wedi methu â gweithredu agwedd "dim goddefgarwch" tuag at aflonyddu rhywiol.
Nodir hefyd nad yw staff yn teimlo bod systemau diogel yn eu lle i ddelio ag achosion o fwlio a gwahaniaethu yn y gweithle a bod diffyg arweinyddiaeth a llywodraethu yn golygu bod y problemau wedi gwaethygu dros y blynyddoedd diwethaf.
Er mor niweidiol yw'r adroddiad i enw da a hygrededd y blaid dywed yr arweinydd, Adam Price, nad yw'n bwriadu ymddiswyddo.
Bu'n siarad â gohebydd gwleidyddol y BBC, Daniel Davies.