Pryder o hyd â phroses anghenion dysgu ychwanegol
Yn ôl rhai rhieni plant ag anghenion dysgu ychwanegol, mae hi'n dal yn "frwydr" i gael cefnogaeth ychwanegol ar eu cyfer yn yr ysgol er gwaethaf newidiadau sydd i fod i wneud y broses yn haws.
Mae yna groeso cyffredinol i amcanion y drefn Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) sy'n rhoi anghenion a photensial y plentyn yng nghalon pob penderfyniad.
Golygai bod pob plentyn ag unrhyw angen ychwanegol yn cael cynllun datblygu unigol, ac nid dim ond y rhai â'r anghenion mwyaf dwys.
Mae plant wedi cael eu trosglwyddo i'r drefn newydd ers 2021, ac mae'r amserlen ar gyfer ei gweithredu wedi cael ei ymestyn tan 2025.
Ond mae un undeb yn galw am oedi pellach, yn sgil pryder dros ariannu'r newidiadau a'r baich gwaith ar staff.
Mae'r drefn newydd hefyd yn cynnwys pwyslais ar ddarpariaeth ddwyieithog - rhywbeth na ddaeth "yn hawdd o gwbl" i deulu Harri, bachgen awtistig saith oed.
Dywedodd Mared, llysfam Harri, mai'r prif anhawster oedd ceisio cael darpariaeth cyfrwng Cymraeg iddo.
Mae o bellach yn cael cefnogaeth "wych" mewn ysgol sydd â rhywfaint o ddarpariaeth yn Gymraeg, ond mae'r teulu'n gobeithio y bydd yna symleiddio pellach ar y broses o hyn ymlaen.