Corgi a'r National: 'Camgymeriad' gweithio â Newsquest

Mae sylfaenydd dau wasanaeth newyddion Cymreig a ddaeth i ben wedi cyfnodau byr wedi dweud mai camgymeriad oedd gweithio gyda chwmni Newsquest.

Mae Huw Marshall yn cydnabod fod "gwersi wedi eu dysgu" wrth iddo sefydlu gwasanaeth newydd o'r enw Talking Wales.

Y llynedd, daeth The National Wales i ben wedi 18 mis ac fe gaeodd Corgi Cymru o fewn llai na chwe mis.

Cafodd y ddwy fenter eu sefydlu gan Mr Marshall a Newsquest, cwmni sydd â'i bencadlys yn Llundain ac America.

Dywedodd Newsquest nad yw mentrau cyhoeddi bob amser yn llwyddo mewn "hinsawdd economaidd heriol".

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod cau Corgi Cymru wedi bod yn "siomedig" ond eu bod yn "fodlon bod y broses dendro a gynhaliwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru yn gadarn, yn agored ac yn deg".