Polisi cardiau adnabod yn 'rhwystr' wrth bleidleisio

Mae 'na bryderon y bydd yr angen i bleidleiswyr gyflwyno llun adnabod cyn pleidleisio yn yr etholiad cyffredinol nesaf yn ei gwneud hi'n anoddach i rai pobl yng Nghymru i fwrw eu pleidlais.

Yr wythnos ddiwethaf, am y tro cyntaf, roedd pleidleiswyr yn Lloegr wedi gorfod dangos dogfen fel pasbort neu drwydded yrru er mwyn cael dweud eu dweud.

Ond roedd y rheolau newydd yn golygu bod rhai wedi methu â phleidleisio.

Un wnaeth bleidleisio yr wythnos ddiwethaf oedd Gwenno Robinson o Abertawe, sy'n astudio gwleidyddiaeth yng Nghaergrawnt.

Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd ei bod hi'n "anodd deall" pam fod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno'r polisi.