Parkinson's: 'Ceisio gwneud bywyd dydd i ddydd yn well'
Fe allai ymchwil yng Nghymru sy'n ceisio "gwrando" ar sgyrsiau rhwng celloedd yr ymennydd gael effaith "fyd-eang" ar ddealltwriaeth o'r cyflwr Parkinson's, yn ôl arbenigwyr.
Parkinson's yw'r ail gyflwr niwroddirywiol mwyaf cyffredin ar ôl Alzheimer's.
Ond mae yna ansicrwydd ynglŷn â beth sy'n achosi'r afiechyd oherwydd bod difrod sylweddol i gelloedd yr ymennydd yn aml yn digwydd cyn bo rhywun yn dangos symptomau.
Mae tîm o Brifysgol Caerdydd yn defnyddio technegau arloesol sy'n cynnwys gyrru celloedd "nôl mewn amser" i geisio deall beth yn union sy'n digwydd yn ystod y camau cynnar.
Cafodd Eirwen Malin, 72, sy'n byw yng Ngwenfô ger Caerdydd, wybod bod ganddi Parkinson's naw mlynedd yn ôl.
Er nad yw Eirwen yn cymryd rhan yn uniongyrchol yn y gwaith ymchwil hwn mae'n cadw golwg manwl ar y datblygiadau diweddara sydd, meddai, yn cynnig gobaith ar gyfer y dyfodol.