Llyr Gruffydd: 'Rhaid dysgu gwersi ac adennill hyder'
Mae arweinydd dros dro Plaid Cymru yn cydnabod fod "methiant wedi bod" ond bod "rhaid dysgu gwersi" at y dyfodol.
Cafodd Llyr Gruffydd ei benodi mewn cyfarfod o ASau'r blaid fore Iau ac mae disgwyl iddo gael ei gadarnhau gan Gyngor Cenedlaethol y blaid ddydd Sadwrn.
Dywedodd Mr Gruffydd, sy'n AS ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru, fod pobl "eisoes wedi'u clustnodi a'u penodi" ar gyfer "gyrru'r gwaith yn ei flaen o adennill hyder yn y blaid".
"Dwi yn cymeryd cryfder a hyder o'r ffaith fy mod i yn enwebiad unfrydol ar ran y grŵp yn y Senedd sydd gobeithio yn rhoi rhywfaint o hygrededd yn fy ngallu i i dynnu pobl at ei gilydd," meddai.
"Na'i ddim rhedeg i guddio rhag unrhyw heriau. Dwi'n derbyn nawr mai fy nghyfrifoldeb i yw adennill hyder ymhlith aelodau."