Heddwas 'yn taro dyn' mewn digwyddiad ym Mhorthmadog

Mae'r heddlu'n ymchwilio i ddigwyddiad ym Mhorthmadog wedi i ddyn gael ei gludo i ysbyty ar ôl cael ei arestio gan swyddogion.

Fe wnaeth Heddlu'r Gogledd gadarnhau fod dyn 34 oed o Borthmadog wedi ei gludo i'r ysbyty "o ganlyniad" i'r digwyddiad, a'i asesu gan staff meddygol, cyn cael ei gadw yn y ddalfa.

Cafodd y clip hwn ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol, ble mae'n ymddangos bod y dyn yn cael ei daro gan swyddog heddlu cyn cael ei arestio brynhawn Mercher, 10 Mai.

Ers hynny mae nifer, gan gynnwys gwleidyddion lleol, wedi dweud bod cymuned Porthmadog "wedi dychryn" gyda'r golygfeydd, ac mae'r mater wedi ei gyfeirio i'r IOPC.