Galar ac iechyd meddwl: Profiad y cerddor Al Lewis

Mae'r cerddor Al Lewis yn dweud bod angen ystyried sut mae pobl o'n cwmpas ni yn aml yn galaru "yn ddistaw heb i neb arall sylweddoli ella beth sy'n mynd ymlaen".

Ar ôl rhyddhau albwm newydd yn ddiweddar sy'n trafod galar, mae'n dweud bod rhoi ei deimladau mewn geiriau wedi bod yn help mawr.

Ag yntau wedi colli ei dad, mae hefyd wedi dod yn fwyfwy awyddus i siarad amdano gyda'i blant ei hun.

"Mae wedi gwneud i fi sylweddoli pa mor bwysig a llesol ydi o i drafod fy nhad i efo mhlant," meddai wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru yn ystod Wythnos Iechyd Meddwl.