BBC Cymru 100: Ymateb y Cofis i Arwisgiad '69

Dros hanner can mlynedd ers ei arwisgo dadleuol fel Tywysog Cymru yng nghastell Caernarfon yn 1969, eleni cafodd Charles ei goroni'n Frenin Charles III yn Abaty Westminster ar y 6ed o Fai 2023. Dyma glip o'r rhaglen Heddiw o'r gohebydd Harri Gwynne ar strydoedd Caernarfon yn holi barn y cofis am yr arwisgiad oedd ar fin digwydd yno ym mis Mai 1969.

Ymunwch â chriw Bore Cothi bob dydd Iau rhwng 11:00 ac 13:00 lle fydd Hywel Gwynfryn yn mynd drwy'r archif.