Y golygfeydd yn anhrefn Trelái yng Nghaerdydd nos Lun
Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau fod dau fachgen yn eu harddegau wedi marw mewn gwrthdrawiad cyn anhrefn yng Nghaerdydd nos Lun.
Cafodd heddlu terfysg a'r gwasanaethau brys eu galw ar ôl i tua 100 i 150 o bobl ymgasglu yn ardal Trelái wedi'r gwrthdrawiad am tua 18:00.
Mae BBC Cymru'n deall mai Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, yw'r ddau berson ifanc fu farw.
Fe gafodd ceir eu rhoi ar dân a gwrthrychau - gan gynnwys tân gwyllt - eu taflu at yr heddlu, a chafodd rhai eu gweld yn torri darnau o bafin a'u taflu.
Dywedodd yr heddlu fod "lefel y trais tuag at y gwasanaethau brys a'r difrod i eiddo a cherbydau yn hollol annerbyniol".
Ychwanegodd y llu fod rhai wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r anhrefn ac y bydd "rhagor yn dilyn".
Dyma rai o'r golygfeydd o'r ardal nos Lun. Lluniau gan Matthew Horwood.