'Brwydr Morgan yn erbyn canser yn emosiynol iawn'

Mae mam bachgen tair oed sydd â chanser yn dweud fod poeni am gostau a chadw to uwch ben ei theulu'n ei chadw'n effro yn y nos.

Mae Natalie Rindler, o Abertawe, wedi sefydlu elusen yn enw ei mab, Morgan, i geisio "llenwi rhai o'r bylchau".

Yn ôl Cynghrair Canser Cymru, mae elusennau'n wynebu cyfnod anodd - sydd yn ei dro'n cael effaith ar deuluoedd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i roi "gofal arbennig" i blant â chanser ond bod yn rhaid teithio am driniaeth mewn rhai achosion.

"Yn emosiynol mae'r cyfan yn anodd iawn," medd mam Morgan.