'Dysgu Cymraeg yn bwysig i mi gan mai Cymro ydw i'
Ers chwe mis mae Nooh Ibrahim, Swyddog Chwaraeon Cymunedol Amrywiol cyntaf yr Urdd, wedi bod yn cael gwersi Cymraeg dyddiol.
"Mae dysgu Cymraeg yn bwysig iawn i fi gan mai Cymro ydw i," meddai Nooh. "Dwi'n dod o Gaerdydd o gymuned amrywiol. Dim siarad Cymraeg."
Mae Nooh, cyn-ddisgybl Ysgol Fitzalan, Caerdydd, bellach yn cynnal sesiynau chwaraeon a hyfforddiant arwain dwyieithog mewn cymunedau yn ne'r brifddinas, yn dilyn yr hyfforddiant Dysgu Cymraeg dwys.
Daw hyn wrth i'r Urdd gyhoeddi partneriaeth newydd gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol fydd yn cynnwys rhaglen hyfforddiant dysgu Cymraeg newydd.