Beth yw'r farn ar 'awenau' lliwgar Eisteddfod yr Urdd?
Mae un o gyn-enillwyr y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd ymhlith y rheiny sydd wedi beirniadu trefn newydd seremonïau'r prif wobrau eleni.
Mae'r drefn eleni wedi dychwelyd at yr hen drefn o gael yr enillydd yn codi o'r gynulleidfa ar ôl cael eu cyhoeddi, ond nawr yn cael eu tywys i'r llwyfan gan un o'r chwe 'awen' sy'n rhan o'r seremoni.
Dywedodd Eisteddfod yr Urdd fod Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd wedi cael y cyfle i "ail-ddychmygu strwythur a delwedd y seremonïau" ar gyfer eleni, a bod unrhyw newid yn arwain at "wahaniaeth barn".
Felly beth yw barn rhai o'r eisteddfotwyr yn Llanymddyfri?