Pryder fod llai o bobl ifanc yn astudio cerddoriaeth

Mae'n sefyllfa "frawychus" bod llai a llai o bobl ifanc yn astudio cerddoriaeth, yn ôl y cyfansoddwr a beirniad un o brif gystadlaethau Eisteddfod yr Urdd, Owain Llwyd.

Mae'r pandemig a'r argyfwng costau byw yn ddwy ffactor sydd wedi golygu toriadau ariannol i'r celfyddydau, meddai wrth raglen Newyddion S4C.

"O siarad gydag athrawon cerdd lot o ysgolion, ma' 'na lot o bobl sydd jyst ddim yn dewis cerddoriaeth erbyn hyn," dywedodd ar ôl beirniadu'r Fedal Gyfansoddi ddydd Llun.

"Y pryder ydy na fydd pobl eisiau dewis y celfyddydau fel gyrfa a 'dan ni ddim isio' cyrraedd y sefyllfa 'na. Mae'n sefyllfa eitha' brawychus i fod yn onest."

Dywedodd Daniel Edwards-Phillips, rheolwr gwasanaethau cerdd Ceredigion, fod "y safon yn is na beth oedd hi cyn Covid".

"Ond ma'r cynllun cerdd cenedlaethol 'ma 'di dod mewn nawr, fel awdurdodau mae gynnon ni fwy o bres i roi'r cyfleoedd yma i'r plant," ychwanegodd.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod Llywodraeth Cymru'n "buddsoddi miliynau" yn y gwasanaethau i roi cyfleoedd i blant a phobl ifanc ganu a chwarae offeryn.