Guto Harri: Anhapusrwydd Boris Johnson yn 'ddigon teg'
Mae'n "ddigon teg" i'r cyn-brif weinidog Boris Johnson deimlo'n anhapus gyda'r broses o ymchwilio i honiadau Partygate, yn ôl y Cymro a fu'n gyfarwyddwr cyfathrebu iddo.
Yn ddiweddarach yn yr wythnos, mae disgwyl i Bwyllgor Breintiau Tŷ'r Cyffredin gyhoeddi canfyddiadau'r ymchwiliad i honiadau bod Mr Johnson wedi camarwain y senedd.
Fe wnaeth Boris Johnson ymddiswyddo fel AS ddydd Gwener ar ôl gweld adroddiad yr ymchwiliad i bartïon honedig yn Downing Street.
Dywedodd ei fod wedi ei orfodi allan gan "lys cangarŵ".
Ddydd Llun, dywedodd un fu'n cydweithio â Mr Johnson yn Rhif 10, Guto Harri nad yw'n "edrych fel cyfundrefn deg iddo fe, a dwi'n cytuno".
Dywedodd y dylai proses all roi diwedd ar yrfa rhywun fod yn "fwy gwrthrychol" ac "uwchlaw y ffrae wleidyddol".
Ychwanegodd bod Mr Johnson wedi ymddiswyddo fel AS am ei fod yn gwybod "bod y gêm ar ben".
Camu i lawr "oedd yr opsiwn orau oedd ar gael", meddai.
Ychwanegodd nad oedd yn gweld llwybr yn ôl i Mr Johnson "yn y dyfodol agos, ond gydag e dy'ch chi byth yn gwybod".