Capiau hoci Cymru: 'Ar y pryd jyst gêm oedd e'
Ar ôl degawdau o aros, mae aelodau tîm hoci menywod Cymru o'r 60au a'r 70au wedi cael eu capiau rhyngwladol o'r diwedd.
Fe gawson nhw eu hanrhydeddu fel rhan o gynllun ymchwil treftadaeth gan Hoci Cymru i gasglu gwybodaeth am bob chwaraewr sydd wedi cynrychioli Cymru, a chyflwyno cap i bob un ohonyn nhw.
I bobl fel Beti Wyn Williams, 80 o Glydach yng Nghwm Tawe, roedd hynny'n foment fawr.
Fe chwaraeodd hi gyntaf i Gymru yn 1966 mewn gemau yn erbyn Lloegr, Yr Alban, Iwerddon a'r Iseldiroedd.
Wrth edrych nôl mae Beti yn amlwg yn falch iawn o'r hyn gafodd ei gyflawni, ond ar y pryd, meddai: "Jyst gêm o hoci oedd e. O'n ni ddim wir yn meddwl am y peth."