'Ieithoedd lleiafrifol yn cael eu bygwth gan newid hinsawdd'
Mae'r Gynhadledd Ryngwladol ar Ieithoedd Lleiafrifol yn cael ei chynnal yng Nghymru yr wythnos hon am y tro cyntaf ers 30 mlynedd.
Bydd dros 200 o arbenigwyr iaith o bob rhan o'r byd yn dod i gampws y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin i rannu ymchwil ac i drafod syniadau newydd yn y maes.
Bydd is-ganghellor y brifysgol, Yr Athro Medwin Hughes, yn agor y gynhadledd ac mae disgwyl i Weinidog y Gymraeg Jeremy Miles a'r Athro Fernand de Varennes o'r Cenhedloedd Unedig fynychu'r agoriad swyddogol.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, cadeirydd Pwyllgor Academaidd Rhyngwladol y gynhadledd, fod yna bwyslais ar effaith newid hinsawdd ar ieithoedd lleiafrifol eleni.
"Da ni'n gwbod bod 'na heriau sylweddol iawn yn wynebu ieithoedd o bob maint o siaradwyr ar draws y byd," dywedodd.
Ychwanegodd ei bod yn "wych" gweld ymchwilwyr newydd sy'n gweithio tuag at "greu dyfodol cynaliadwy" i ieithoedd lleiafrifol.