Menter Yr Eagles: 'Mae o'n fwy na thafarn'

Mae'r gymuned yn Llanuwchllyn wedi dod at ei gilydd i sefydlu menter i brynu Tafarn enwog yr Eagles.

Fe gyhoeddodd perchnogion yr Eagles yn gynharach eleni y byddai'r dafarn yn mynd ar werth.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru dywedodd Steffan Prys Roberts, aelod o bwyllgor llywio'r fenter, bod cefnogaeth y gymuned wedi bod yn gadarnhaol.

"Mae o'n fwy na thafarn, mae o'n fusnes llewyrchus sy'n rhedeg fel bwyty a siop," meddai.

"'Da ni'n sicr, fel menter, yn awyddus i barhau a sicrhau dilyniant yr Eryrod i'r dyfodol.

"Yr hyn sydd wedi bod yn hynod gadarnhaol ydi fod ganddom gymuned sy'n hynod gefnogol i'r fenter a'r gobaith yw fydd y gefnogaeth hwnnw'n mynd yn ehangach."