Galw am gynrychioli menywod yn well ym myd gemau fideo

Mae'r diwydiant gemau fideo gwerth £7bn y flwyddyn i economi Prydain - sy'n fwy na chyfraniad ffilm a cherddoriaeth.

Ond mae 'na alw am newidiadau - mwy o amrywiaeth a llai o stereoteipiau.

Mae nifer y dynion a'r menywod sy'n chwarae bron yn hafal, ond o ran cynnwys y gemau, dydy pethau ddim mor gyfartal.

Fe astudiodd ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Caerdydd a Glasgow 50 gêm, oedd yn cynnwys 13,000 o gymeriadau.

O'r holl ddeialog yn y gemau 35% oedd yn cael ei siarad gan fenywod.

Adroddiad Alex Humphreys i raglen Newyddion S4C.