Cyfweliad twyllwr wrth geisio honni lladrad car rali

Mae dyn o Sir Gâr a ffugiodd fod ei gar rali gwerth £49,000 wedi ei ddwyn wedi cael ei ddedfrydu.

Cafodd Llyr Jones o Drefach Felindre ddedfryd o 16 mis o garchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd, gorchymyn i wneud 200 awr o wasanaeth cymunedol a bydd yn rhaid iddo dalu costau cyfreithiol.

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Jones wedi honni fod ei Ford Escort MK2 wedi ei ddwyn o'i gartref rhwng 9 a 15 Hydref 2022.

Fe wnaeth Jones gyfweliad â Newyddion S4C ar y pryd gan ddweud fod y sefyllfa yn "dorcalonnus" ac yn "golled enfawr".