BBC Cymru 100: Tom Pryce, y gyrrwr Grand Prix o Sir Ddinbych
Ganwyd y gyrrwr Grand Prix o Ruthun, Tom Pryce, ar Fehefin yr 11eg, 1949.
Yn 1974 roedd o'n gwneud yn arbennig o dda ym myd rasio ceir. Daliwyd sylw Formula 1 a chafodd ei arwyddo i'w tîm y flwyddyn honno. Roedd yn seren yn y byd rasio.
Yn ystod Grand Prix yn Ne Affrica yn 1977 cafodd ddamwain pan drawyd marsial oedd ar y trac. Buodd y ddau farw yn y fan a'r lle.
Yn 2016, mewn papur academaidd mathemategol wedi'i gyhoeddi gan New Atlas, cafodd Tom Pryce ei osod yn 28ain yn y gyrrwyr Formula 1 gorau erioed.
Mae cofeb iddo yn Rhuthun â'r geiriau "Fe gurodd y goreuon heb gefnu ar ei gynefin" arni.
Gallwch glywed mwy yn y clip hwn ar Bore Cothi.