Ail-agor Marchnad Llandeilo: 'Agor drysau' i'r gymuned leol
Mae neuadd farchnad Llandeilo, a gafodd ei hadeiladau yn 1838, wedi ail-agor ddydd Iau - a hynny ar ôl bod yn wag ers 2002.
Bydd yna 14 o unedau busnes yn rhan o'r fenter ar ôl gwaith adnewyddu gwerth £4m.
Ar Dros Frecwast, dywedodd cyn-faer Llandeilo Owen James fod ail-agor y neuadd yn ddiwrnod cyffrous iawn i'r dref.