Pobl â meigryn 'yn unig' heb gefnogaeth
Mae mam i dri o Geredigion wedi disgrifio pa mor anodd yw ceisio gofalu am ei phlant a byw ei bywyd bob dydd bob tro y mae hi'n dioddef meigryn.
A hithau'n dioddef o'r cyflwr ers ei harddegau, mae Delyth Jones yn cael tua naw meigryn y mis erbyn hyn.
Gan ddisgrifio'r graddau y mae'n rhaid iddi ddibynnu ar ei theulu pan fo'r boen yn ormod, nes bod dim dewis ond mynd i orwedd nes iddo bylu, mae hi'n dweud bod heb ganddi i drafod ei chyflwr.
Mae'n dweud hefyd y byddai wedi gwerthfawrogi mwy o wybodaeth a chefnogaeth dros y blynyddoedd i fyw gyda'r cyflwr - rhywbeth y mae'r elusen Migraine Trust hefyd yn galw amdano.
Dywed yr elusen bod dioddefwyr yn dal i deimlo'n unig, a bod angen yr un lefel o ymwybyddiaeth am y cyflwr ag am y menopos.
Mae Llywodraeth Cymru eu bod wedi lansio pecyn cymorth yn ddiweddar i dimau clinigol sy'n cynnwys cyngor ar lwybrau diagnosis a sut i gefnogi cleifion, gan gynnwys rheiny â meigryn.