Y GIG yn 75: 'Swydd wych ond mae'n gallu bod yn anodd'

Wrth i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gyrraedd y garreg filltir o 75 mlynedd ers ei sefydlu, mae aelodau staff un o ysbytai'r de wedi rhoi blas i BBC Cymru Fyw o'u hamodau gwaith o ddydd i ddydd.

Un o'r gweithwyr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ger Llantrisant, a rannodd eu profiadau, a'u teimladau ynghylch dyfodol y gwasanaeth yw Dr Owain Williams, sy'n feddyg iau yno ers 10 mis.

Mae'n dweud ei fod yn cael boddhad mawr o'r gwaith, ond mae wedi gweld eisoes pa mor heriol y mae'r amodau'n gallu bod i'w gydweithwyr ac i gleifion.

Ond mae'n dweud ei fod yn ffyddiog bod yna ddyfodol i'r GIG tra bod awydd ymhlith y cyhoedd i warchod y gwasanaeth.