Eluned Morgan: 'Mae'r gwasanaeth iechyd yn gweithio'
Dydy'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, yn ei ffurf bresennol, ddim yn addas ar gyfer y dyfodol - dyna y mae disgwyl i'r gweinidog iechyd rybuddio mewn cynhadledd ddydd Iau.
Fe fydd Eluned Morgan yn dweud bod cynnydd mewn galw am wasanaethau'n golygu bod dewisiadau anodd ar y gorwel i'r gwasanaeth.
Wrth nodi 75 mlynedd ers sefydlu'r GIG, mae disgwyl iddi ddweud y bydd yn rhaid i'r gwasanaeth newid ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd hefyd bod angen i'r cyhoedd i leddfu'r pwysau ar y gwasanaeth drwy ofalu am eu hiechyd eu hunain.
"Mae 'na ddwy filiwn o gysylltiadau gyda'r gwasanaeth iechyd yn fisol mewn gwlad sydd efo tair miliwn o bobl - mae hwnna yn golygu bod y gwasanaeth iechyd yn gweithio," meddai ar Dros Frecwast fore Iau.
Dywedodd ei bod yn teimlo fod angen i fyrddau iechyd gymryd cyfrifoldeb, a bod angen bod yn fwy eglur ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol am elfennau gwahanol - y llywodraeth ynteu byrddau iechyd.
Ychwanegodd y bydd 99% o bobl sydd ar restrau aros ar hyn o bryd "yn cael eu gweld erbyn diwedd y flwyddyn ariannol", sy'n darged newydd i GIG Cymru.