Y merched o Wcráin sydd bron yn rhugl mewn Cymraeg bellach
Mae Nataliia a Sofiia wedi bod yn dysgu Cymraeg ers symud i Ynys Môn o Wcráin y llynedd - ac yn ôl eu hathrawes, maen nhw wedi bod yn "arbennig".
Fe ddaeth y ddwy i Gymru gyda'u teuluoedd yn dilyn y rhyfel yn eu mamwlad, ac maen nhw bellach wedi ymgartrefu yma.
Yn ôl yr athrawes drochi, Eira Owen, prin oedden nhw'n gallu siarad Cymraeg na Saesneg ddechrau'r flwyddyn, ond maen nhw bellach yn siarad tair iaith yn rheolaidd.
Dyma Nataliia a Sofiia yn siarad am eu profiad.