Huw Edwards yn yr ysbyty ar ôl cael ei enwi wedi honiadau
Huw Edwards yw'r cyflwynydd oedd yn wynebu honiadau o dalu am luniau o natur rywiol gan berson ifanc, yn ôl ei wraig.
Mewn datganiad ar ei ran, mae'n dweud i'r darlledwr adnabyddus fod yn dioddef o broblemau iechyd meddwl difrifol, a'i fod yn yr ysbyty'n cael triniaeth.
Ers 40 mlynedd mae Huw Edwards wedi bod yn un o wynebau amlycaf y BBC; yn gyflwynydd ar Radio Cymru, ac ar S4C hefyd.
Mae'r Cymro - sydd wedi'i wahardd gan y BBC - yn bwriadu ymateb i straeon y diwrnodau diwethaf pan yn ddigon iach.
Yn y cyfamser mae Heddlu'r Met wedi dweud nad ydyn nhw wedi gweld unrhyw dystiolaeth o dor-cyfraith.
Adroddiad gan Ellis Roberts i Newyddion S4C.